Beth yw TACCLE?
' Ysgrifennwyd gan Administrator   
Wednesday, 19 December 2007

Mae'r prosiect TACCLE yn helpu athrawon ddatblygu deunydd e-ddysgu eu hunain. Mae´n darparu:

  • arweiniad cam wrth gam mewn llawlyfr ‘how-to-do-it´ wedi ei dargedu at athrawon 
  • hyfforddiant ymarferol i ddatblygu sgiliau y gallwch chi eu defnyddio yn eich dosbarthiadau eich hunain 
  • gwefan llawn o wybodaeth: www.taccle.eu 
  • hyfforddiant rhyngwladol mewn swydd unwaith y flwyddyn

I bwy yw TACCLE?

Mae´r prosiect TACCLE wedi ei ddylunio gan athrawon ar gyfer athrawon, ac mae wedi ei ddarparu ar gyfer pobl â sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol a chymorth technegol cyfyngedig.
Mae´r llawlyfr a´r hyfforddiant wedi eu targedu ar gyfer anghenion athrawon dosbarth ond mae´n bosib y bydd hyfforddwyr athrawon, staff cymorth TGCh a staff canolfan adnoddau yn eu ffeindio yn ddefnyddiol hefyd!
Mae´n darparu cymorth ymarferol i athrawon sydd eisiau ‘profiad hands on’ ac mae´n darparu cymorth a gwybodaeth i athrawon sydd eisiau darganfod mwy am e-ddysgu.  

Pam TACCLE?

Mae Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu yn cael eu defnyddio yn fwyfwy ar gyfer creu amgylcheddau dysgu mwy cyfoethog.
Ym mhob sector addysg, o ysgolion cynradd i addysg i oedolion, mewn ysgolion i ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig ac mewn colegau a phrifysgolion, mae technolegau yn cael eu defnyddio ar draws y cwricwlwm i  wella profiadau myfyrwyr.
Serch hynny, nid yw technoleg yn ddigon. Mae creu cynnwys o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn cyflawni potensial e-ddysgu mewn ffordd sydd yn symbylu ac yn meithrin Addysg Gydol Oes.
Mae´n bwysig hyfforddi athrawon sut i ddylunio a datblygu eu cynnwys eu hun a chynhyrchu deunydd dysgu a all helpu eu myfyrwyr eu hunain. Mae hefyd yn bwysig bod y deunydd yn gallu cael ei gyfnewid gyda phobl eraill yn hawdd ac heb gost.

Dyma nod prosiect TACCLE.
Beth yn union y bydd TACCLE yn ei wneud?

  • Hyfforddi athrawon i greu cynnwys ar gyfer amgylcheddau dysgu electronig mewn cyd-destun cwrs e-ddysgu.
  • Caniatáu athrawon i adnabod a phenderfynu pa offer a chynnwys TGCh sydd fwyaf defnyddiol at ddibenion arbenigol.
  • Dysgu athrawon sut i greu gwrthrychau dysgu sydd yn ystyried dyluniad gwybodaeth, safonau we, meini prawf defnyddioldeb a rhwyddineb ailddefnyddio (testun, delweddau, animeiddiad, sain a fideo) ac sydd yn galluogi prosesau dysgu gweithredol, rhyngweithiol a chydweithredol.  
  • Gwella ansawdd amgylcheddau e-ddysgu mewn addysg drwy hyfforddi athrawon i´w defnyddio yn effeithiol a thrwy creu adnoddau i´w helpu i wneud hynny.  
  • Symbylu dulliau newydd o hyfforddiant athrawon yn berthnasol i syniad dysgu gydol oes, rhannu gwybodaeth a dysgu gan gymheiriaid. 
  • Annog athrawon i rannu´r cynnwys  wedi ei datblygu yn defnyddio cadwrfeydd (e-llyfrgellau) presennol. 
Diweddarwyd ddiwethaf ar ( Saturday, 14 November 2009 )